by Kim Smith (nee McGowan) – Food Education Network
There is such a thing as a free brunch… For food educators!
Do you engage young people about food? Do you teach kids cooking skills? Are you passionate about sharing how food grows, what healthy foods look like, or how our food choices impact the planet? Are you one of the army of people, passionate about children being more connected to where food comes from?
Well, come and meet like-minded people at a new event at this year’s Abergavenny Food Festival, on Sunday 22nd September from 11am.
x
Kim Smith, Food Educator, Researcher and TastEd trustee, is teaming up with the Office of the Future Generations Act Commissioner for Wales to bring together those passionate about food education – in all its forms – to connect, share, and inspire each other.
Food is key to a sustainable future that delivers upon economic, cultural, environmental and social well-being. Equipping children with skills and knowledge about the food we eat and where it comes from, is a vital part of supporting good health for both people and planet.
Based on the friendly, informal network dinners held in London since 2019, and supported by Abergavenny Food Festival, the aim is to build the incredible network of food education enthusiasts across the UK, over a delicious, informal (and FREE) vegetarian brunch.
First, we will hear a range of Fast Food Talks covering local and national perspectives, followed by a chance to meet and chat over food. We invite everyone to come and give a Fast Food Talk – it’s a simple yet speedy 5 min talk about your unique approach to food education that overcomes the multiple barriers to food education. No slides, or prep required, just some insights to share with new colleagues!
Further details of the event are below.
Click here to book tickets:
Tickets are limited for this FREE event, so book tickets now to secure your place
Who: Food education enthusiasts (including cooking, growing, sustainability, sensory education, nutrition and health, food systems)
When: Sunday 22nd September 2024, 11am-12.30pm
Where: Abergavenny Community Centre
Cost: FREE. This event would not be possible without the kind support and enthusiasm of Abergavenny Food Festival, the Office of the Future Generations Commissioner for Wales , Countryside Classroom, Monmouthshire Food Partnership and Food Sense Wales.
Mae yna’r fath beth â brecinio am ddim… I addysgwyr bwyd!
Ydych chi’n ymgysylltu â phobl ifanc am fwyd? Ydych chi’n angerddol am rannu sut mae bwyd yn tyfu, sut i wneud pasta, sut olwg sydd ar fwydydd iach, neu sut mae ein dewisiadau bwyd yn effeithio ar y blaned? Ydych chi’n un o’r fyddin o bobl allan yna sy’n angerddol am blant yn cael mwy o gysylltiad ag o ble mae bwyd yn dod?
Wel, dewch i gwrdd â phobl o’r un anian mewn digwyddiad newydd a gynhelir gan Ŵyl Fwyd y Fenni, ddydd Sul 22ain o Fedi o 11yb ymlaen. Yn seiliedig ar y ciniawau rhwydwaith cyfeillgar, anffurfiol a gynhaliwyd yn Llundain ers 2019, nod y digwyddiad hwn, a gefnogir yn hael gan Ŵyl Fwyd y Fenni, yw adeiladu’r rhwydwaith anhygoel o addysgwyr bwyd brwd ledled y DU, dros frecinio llysieuol blasus, anffurfiol (ac AM DDIM).
Mae Kim Smith, Addysgwr Bwyd, Ymchwilydd ac ymddiriedolwr TastEd, yn ymuno â Swyddfa Comisiynydd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru i ddod â’r rhai sy’n angerddol am addysg bwyd at ei gilydd – yn ei holl ffurfiau – i gysylltu, rhannu, ac ysbrydoli ei gilydd. Mae bwyd yn allweddol i ddyfodol cynaliadwy, sy’n cyflawni llesiant economaidd, diwylliannol, amgylcheddol a chymdeithasol. Mae arfogi plant â sgiliau a gwybodaeth am y bwyd rydym yn ei fwyta ac o ble y daw, yn rhan hanfodol o gefnogi iechyd da i bobl a’r blaned.
Yn gyntaf, byddwn yn clywed amrywiaeth o Sgyrsiau Bwyd Cyflym yn ymdrin â safbwyntiau lleol a chenedlaethol, ac yna cyfle i gwrdd a sgwrsio am fwyd. Rydym yn gwahodd pawb i ddod i roi Sgwrs Bwyd Cyflym – mae’n sgwrs 5 munud syml ond cyflym am eich agwedd unigryw at addysg bwyd sy’n goresgyn y rhwystrau lluosog i addysg bwyd. Nid oes angen sleidiau, na pharatoad, dim ond ychydig o fewnwelediadau i’w rhannu â chydweithwyr newydd!
Ceir rhagor o fanylion am y digwyddiad isod. Mae nifer cyfyngedig o docynnau ar gyfer y digwyddiad RHAD AC AM DDIM hwn, felly archebwch docynnau nawr i sicrhau eich lle. Ni allwn aros i gwrdd â chi!
Pwy: Addysgwyr Bwyd Brwd (gan gynnwys coginio, tyfu, cynaliadwyedd, addysg synhwyraidd, maeth ac iechyd, systemau bwyd)
Pryd: Dydd Sul 22 Medi 2024, 11am-12.30pm
Ble: Canolfan Gymunedol y Fenni
Cost: AM DDIM Ni fyddai’r digwyddiad hwn yn bosibl heb gefnogaeth a brwdfrydedd caredig Gŵyl Fwyd y Fenni, Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, Countryside Classroom, Partneriaeth Bwyd Sir Fynwy a Synnwyr Bwyd Cymru.